Rhoi a derbyn
Pwysigrwydd bod yn hael
gan Alison Thurlow
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ein hannog i fod yn hael.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Giving and Receiving) a’r modd o’u dangos.
- Efallai yr hoffech chi gyfeirio at y gwasanaethau cyntaf yn y gyfres hon sy’n sôn am wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth blant:
- Y gyntaf yn y gyfres yw ‘O fes bach’ (Ionawr 2017) : http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2752/o-fes-bach
- Yr ail yw ‘Grym geiriau plant’ (Chwefror 2017) : http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2762/pretzels-y-grawys
- Y drydedd yw ‘Os yw siarad yn arian ...’ (Mawrth 2017) : http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2786/os-yw-siarad-yn-arian
Gwasanaeth
- Dangoswch Sleid 1.
Gofynnwch y cwestiynau canlynol (mae’r atebion mewn cromfachau).
- Oes rhywun yn gwybod enw'r sant a gynrychiolir yn y llun yma? (Sant Ffransis o Assisi)
- Oes rhywun yn gwybod ym mha wlad yr oedd Sant Ffransis yn byw? (Yr Eidal)
- Oes rhywun yn gwybod ym mha ganrif yr oedd yn byw ynddi? (Y deuddegfed a'r drydedd ganrif ar ddeg)
- Oes rhywun yn gwybod am beth yr oedd yn enwog? (Gofalu am anifeiliaid a'r amgylchedd. Ef yw nawddsant yr Eidal, ac ef yw nawddsant anifeiliaid hefyd.) - Yn ogystal â chael ei adnabod fel nawddsant anifeiliaid, mae Sant Ffransis yn adnabyddus hefyd am rai o'i ddywediadau doeth.
Dangoswch Sleid 2.
Un o'i ddywediadau doeth yw, 'Wrth roi yr ydym yn derbyn. - It is in giving that we receive.’
Gofynnwch i'r plant beth maen nhw’n ei feddwl y gallai'r ymadrodd hwn fod yn ei olygu.
Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant. - Eglurwch i’r plant fod y stori yr ydych chi’n mynd i’w hadrodd iddyn nhw yn sôn am fachgen bach a roddodd bopeth oedd ganddo. Gofynnwch i'r plant wrando'n ofalus a gweld ydyn nhw’n gallu dyfalu beth a dderbyniodd y bachgen yn gyfnewid am yr hyn a roddodd.
Dangoswch Sleid 3.
Bwydo 5,000 o bobl
Lle bynnag y byddai Iesu’n mynd, roedd pobl i’w gweld yn ei ddilyn. Roedden nhw eisiau clywed yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud, ac roedden nhw’n arbennig o awyddus i’w weld yn perfformio gwyrthiau ac yn iachau pobl. Weithiau, fodd bynnag, roedd Iesu eisiau cael bod ar ei ben ei hun neu eisiau cael treulio ychydig o amser gyda'i ffrindiau, sef y disgyblion.
Un diwrnod, pan oedd hi’n amser i’r bobl ddathlu gwledd y Pasg Iddewig, fe neidiodd Iesu a'i ddisgyblion i mewn i gwch a rhwyfo ar draws Llyn Galilea. Roedden nhw'n gobeithio gallu dringo i fyny i'r tir mynyddig yno er mwyn cael ychydig o heddwch a thawelwch, ond pan wnaethon nhw edrych y tu ôl iddyn nhw, fe welson nhw fod torf enfawr wedi eu dilyn!
Teimlai Iesu'n drueni dros yr holl bobl hyn, felly fe wnaeth yr hyn y byddai’n ei wneud fel arfer - fe ddechreuodd ddysgu mwy am Dduw i’r bobl. Yn wir, fe fu'n eu dysgu nhw drwy'r dydd. Pan aeth hi'n hwyr, roedden nhw i gyd yn llwglyd iawn ac yn teimlo eu bod eisiau bwyd yn ofnadwy. Galwodd Iesu un o'i ddisgyblion, sef Philip, drosodd ato.
‘Mae’r bobl hyn eisiau bwyd,’ dywedodd Iesu wrth Philip. ‘Dos i nôl rhywbeth iddyn nhw i’w fwyta, wnei di?’
‘Rwyt ti’n tynnu fy nghoes!’ atebodd. ‘Mae mwy na 5,000 o bobl yma! Fe fyddai’n cymryd cymaint â chyflog chwe mis o waith i brynu digon o fwyd i bawb.’
Ymunodd Andreas, un arall o’r disgyblion, yn y sgwrs.
‘Esgusodwch fi,’ dywedodd Andreas, ‘mae bachgen bach yma gyda’i becyn bwyd. Ond dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd ganddo. Fydd hynny ddim yn mynd ymhell iawn rhwng y bobl hyn i gyd.’
‘Gadewch i ni weld beth sy’n bosib,’ dywedodd Iesu. ‘Yn gyntaf, trefnwch i bawb eistedd ar y glaswellt.’
Wrth i’r bobl eistedd i lawr, fe gymerodd Iesu’r bwyd gan y bachgen, ei ddal i fyny’n uchel, a diolch i Dduw amdano. Yna, fe ddechreuodd dorri’r bwyd yn ddarnau bach a rhannau’r darnau i’r bobl yn y dyrfa.
Roedd y disgyblion wedi cael syndod mawr- roedd y bwyd yn dal i ddod ac roedd digon i bawb ei fwyta. Pan oedd pawb yn llawn, wedi cael hen ddigon o fwyd i’w fwyta, rhoddodd Iesu un gorchymyn terfynol i’w ddisgyblion, gan ddweud, ‘Ewch a chasglwch yr holl fwyd sydd dros ben fel nad ydym yn gwastraffu unrhyw beth.’
Fe wnaeth y disgyblion yr hyn yr oedd Iesu wedi ei ddweud wrthyn nhw, ac fe wnaethon nhw gasglu deuddeg llond basged fwyd a oedd dros ben: un ar gyfer pob un ohonyn nhw!
Amser i feddwl
Pan gychwynnodd y bachgen bach yn y stori o’i gartref y bore hwnnw, doedd ganddo ddim syniad y byddai ei becyn bwyd yn cael ei ddefnyddio i fwydo dros 5,000 o bobl. Fodd bynnag, roedd gan Dduw gynllun gwahanol, ac mae'r pecyn cinio wedi dod yn destun un o'r straeon mwyaf adnabyddus yn y Beibl! Doedd y bachgen bach ddim yn hen iawn a doedd ganddo ddim llawer i'w gynnig. Fodd bynnag, yr oedd yn hael iawn gyda'r hyn oedd ganddo, a bendithiodd Duw ef a llawer o rai eraill oherwydd ei haelioni. Yn y Beibl, gallwn ddod o hyd i nifer o storïau am blant. Trwy ddarllen y straeon hyn, rydym yn dysgu bod Duw’n gwerthfawrogi plant yn fawr iawn, ac yn aml mae ganddo swyddi pwysig i’r plant eu gwneud.
Dangoswch Sleid 4.
Gofynnwch i'r plant droi at y person nesaf atyn nhw, a siarad am y ddau gwestiwn sy’n ymddangos ar y sleid.
- Fe roddodd y bachgen bach yn y stori lawer iawn - beth ydych chi'n ei feddwl a gafodd y bachgen yn gyfnewid am hyn?
-Pa fath o bethau y gallech chi fod yn hael gyda nhw, yma yn eich ysgol chi?
Gwrandewch ar ymateb nifer o’r plant.
Fe allwn ni fod yn hael gyda llawer o bethau heblaw arian. Gallwn fod yn hael gyda’n hamser, gydag eiddo a chyfeillgarwch, ac mewn nifer o ffyrdd eraill hefyd. Mae bod ymhlith pobl hael yn gwneud i bawb deimlo'n dda, felly gadewch i ni i gyd geisio bod yn arbennig o hael yr wythnos hon.
Dangoswch Sleid 5.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti fod y bachgen bach yn y stori mor hael gyda’i becyn bwyd ac yn barod i’w rannu.
Helpa bob un ohonom ni i fod yn hael, ac i fod yn barod i rannu beth bynnag a allwn ni gydag eraill.
Amen.
Neu, fe allech chi ddefnyddio geiriau gweddi enwog Sant Ffransis o Assisi, y mae’r geiriau Saesneg yn cael eu dangos ar Sleidiau 6-8.
Cân/cerddoriaeth
Awgrymir canu emyn Gweddi Sant Ffransis - ‘Iôrgwna fi'n offeryn dy hedd,’ gweler Caneuon Ffydd 868. Neu mae’r geiriau Saesneg, ‘Make me a channel of your peace’ i’w gweld ar Sleidiau 6-8 o’r cyflwyniad PowerPoint.)